Croeso i Meithrinfa Ogwen!

COVID-19

Oherwydd y sefyllfa bresennol hefo COVID-19 da ni ddim yn caniatau ymwelwyr i fewn i’r sefydlad. Os ydych ddarpar riant mae croeso i chi ddod i weld ein lleoliad ar ol 6.00 p.m. dydd LLun i ddydd Gwener neu mae posib trefnu amser dydd Sadwrn neu dydd Sul i chi gael gweld o amgylch y Feithrinfa.

image
Meithrinfa Ddydd Breifat ydi Meithrinfa Ogwen Cyf. Fe’i hagorwyd yn Ebrill 2001 ar gyfer plant o 3 mis-8 mlwydd oed ac mae’n cael ei rhedeg gan Mrs Delyth Jones. Rydyn ni wedi ein trwyddedu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gymryd hyd at 41 o blant ar unrhyw adeg benodol.

Cyn y trawsnewid a’n hagoriad yn Ebrill 2001, hen swyddfa a chompownd y Contractwyr Trydanol Jones a Whitehead oedd yr adeilad. Fe symudon nhw i’w safle newydd yn Nhregarth ac fe ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad presennol yn Ionawr 2001.

Mae’r adeilad wedi ei adeiladu i’r pwrpas ac mae’n eang, yn fodern ac wedi’i ddylunio ar gyfer diogelwch plant gyda lefelau uchel o ran diogelwch a chyfforddusrwydd. Mae nodweddion yn cynnwys lloriau gwrthlithro a lloriau diogelwch yn yr ardal chwarae yn ogystal â CCTV a drws sydd â chod mynediad. Rydyn ni wedi ein cofrestru ar gyfer 41 o fechgyn a merched ac mae’r sefydliad yn un dwyieithog. Ein polisi yw bod staff, plant ac ymwelwyr yn gwisgo slipers y tu mewn i’r adeilad felly cynghorir eu gwisgo. Mae hynny i sicrhau, pan fydd plant a staff yn chwarae ar y llawr, ein bod ni’n saff o wybod fod y carped yn lân o unrhyw esgidiau a wisgir y tu allan a’i fod yn blant-gyfeillgar i chwarae arno.

 

 

Lluniau Diweddaraf

pix pix pix pix pix pix

Lleoliad


Gweld Meithrinfa Ogwen mewn map mwy

Cysylltu

Meithrinfa Ogwen Cyf.
3 Ffordd Carneddi
Bethesda
Gwynedd
LL57 3RU

Rhif Ffôn: 01248 605 555
Ffôn Symudol: 07824 340020
E-bost: post@meithrinfaogwen.co.uk